
Casgliadau roddwyd i’r Castell
Casgliadau roddwyd i'r Castell
Mae Castell Aberteifi wedi bod yn hynod o ffodus i dderbyn rhoddion oddi wrth Gasglwyr Preifat. Mae rhain yn cynnwys peintiadau, ffotograffiaeth, dogfennau a gwrthrychau o bob math sydd o ddiddordeb i haneswyr a’r cyhoedd. Ma’r Castell yn eithriadol ddyledus i’r unigolion hynny, eu teuluoedd ag ysgutoriaid am fod mor rhadlon yn eu cymwynas i’r Castell gan sicrhau gofal a lle i’r darnau ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol.

Sut i gyflwyno rhodd o eitem, llun neu wrthrych i Gasgliad y Castell
Mae Castell Aberteifi dan reolaeth elusen Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladu Cadwgan. Ers adfer y Castell a’i agor i’r cyhoedd yn 2015 mae nifer o bobl wedi cyflwyno darnau o ddiddordeb a phwysigrwydd hanesyddol, sy’ nawr yn ffurfio ‘Casgliad y Castell’ – adlewyrchir yng nghynnwys y wefan hon. Mae nifer helaeth o’r darnau yma i’w gweld yn y Castell.
Mae’r cyfrifoldeb am guradu’r ‘Casgliad’ yn nwylo Meirion Davies, Cyfarwyddwr y Castell ag Hanesydd y Castell – Glen Johnson. Os oes gennych eitemau byddech yn ystyried yn addas i’w hychwanegu at y casgliad plis cysylltwch drwy ebost info@cardigancastle.com.
Neu, mae croeso i chi alw yn nerbynfa’r Castell – yn Siop y Castell yn ystod oriau pan bo’r Siop ar agor i drafod eich eitem.
Mae’r Castell â diddordeb penodol mewn eitiemau sydd â chysylltiad gyda’r Castell, ag eitemau werthwyd ar ocsiwn yn hwyr yn 2002, neu a werthwyd ynghynt na hynny hyd yn oed. Rydym hefyd yn chwilio am ddodrefn o’r cyfnod Sioraidd neu o gyfnod Rhagfrenhinol, neu eitemau sydd â chyslltiad unigryw gyda thref Aberteifi neu’r ardal cyfagos.
Mae ‘Casgliad y Castell’ yn archif byw sy’n datblygu ac yn hynny o beth mae’n bosib iddo adlewyrchu pob cyfnod o hanes y Castell a’r dref tan heddiw.
Yn anffodus nid yw’n bosib derbyn a rhoi cartre i bob dim sy’n cael ei gynnig – ond lle mae’r Castell yn derbyn rhodd a’r ofalaeth dros eitem mae cofnod o’r manylion a hanes yr eitem yn cael ei recordio yn y modd mwya’ manwl posib.
Ein nod yw dal, diogelu a dathlu hanes y rhoddion yma ar gyfer y dyfodol.




